Maerdy Fferm Wynt

     Cynnwys    Help    Cysylltu    English

Eich Barn

 


Ymgynghoriad Cyhoeddus

Rhowch eich barn ar gynigion y prosiect. Bydd hyn yn ein helpu i ddylunio'r prosiect yn well. Rhowch wybod i ni beth ydych chi'n feddwl o gynllun y fferm wynt, y ffordd y dylai unrhyw fuddion lifo ac unrhyw beth arall sy'n eich pryderu. Byddwn yn cadw eich sylwadau i gyd iddynt gael eu harchwilio gan yr awdurdod cynllunio. Mae croeso i chi naill ai adael eich manylion cyswllt neu beidio â gwneud, yn ôl eich dymuniad.

Cewch gynnig sylwadau mewn llythyr neu drwy e-bost (Cyfeiriadau ar waelod y dudalen hon). Daeth yr ymgynghoriad ar y cynllun cychwynnol i ben ar Ionawr 29ain ac mae'r prosiect terfynol yn cael ei gynllunio bellach gan ddefnyddio'r sylwadau hynny. Bydd cyfres arall o arddangosfeydd cyhoeddus ac ymgynghori'n digwydd pan gaiff y cynllun terfynol ei gyflwyno ar gyfer cais cynllunio tua diwedd y Gwanwyn. Serch hynny, yn y cyfamser mae croeso o hyd i sylwadau cyffredinol ar y cynigion cychwynnol.

Bydd cynllun terfynol y prosiect yn cael ei gyflwyno fel cais cynllunio gyda'r asesiad effaith amgylcheddol i'w gefnogi yn ystod Gwanwyn 2006. Bydd y wefan hon yn cynnwys gwybodaeth ar y cynllun terfynol. Bydd cyfarfodydd cyhoeddus hefyd yn cael eu cynnal ar y cynigion terfynol. Os hoffech gael gwybod am fanylion lleoliad ac amser y cyfarfodydd hyn, a fyddech cystal â rhoi gwybod i ni drwy gyfrwng y manylion cyswllt isod.

Isod ceir rhestr o'r meysydd penodol sydd o ddiddordeb i ni o ran derbyn sylwadau, ond peidiwch â gadael i hyn gyfyngu ar eich sylwadau ar unrhyw beth arall.

 

Ymholiadau Ymgynghori Penodol

1. Ar y cyfan, oes well gennych chi gynllun yr wyth tyrbin mwy ("3MW") neu'r deuddeg tyrbin llai ("2MW")?

2. Oes yna unrhyw leoliadau tyrbin neu olygfeydd sy'n achosi aflonyddwch?

Os ydych chi am fod yn benodol, mae gan bob golygfa gyfeiriad "VP" sydd i'w weld ym mar cyfeiriad ffenestr y wefan pan fyddwch yn edrych ar animeiddiad neu ddelwedd lonydd. I gyfeirio at leoliadau tyrbinau penodol, defnyddiwch rifau'r tyrbinau ar gyfer pob cynllun a welir yng nghynlluniau'r tyrbinau. Fel arall, disgrifiwch eich barn a'ch pryderon.

3. Beth yw eich prif bryderon?

4. Pa wybodaeth arall ddylai fod ar gael?

5. Yn eich barn chi, beth yw'r ffordd orau i'r cyllido cymunedol lifo o'r prosiect?

· at brosiectau cymunedol
· at unigolion drwy gyfranddaliadau yn y fferm wynt
· drwy brisiau trydan gostyngol

6. Oes gennych chi unrhyw syniadau penodol ar ddefnyddio cyllid cymunedol?


7. Ydych chi'n cefnogi neu'n gwrthwynebu'r prosiect hwn? Oes angen gwneud unrhyw newidiadau?

Cyfeiriadau'r Ymgynghoriad

Ymatebwch:

Drwy ebost: project.manager@maerdywindfarm.co.uk

Neu drwy'r post:

Maerdy Windfarm Project Manager
REP
Overmoor
Neston
Corsham
SN13 9TZ

Contents