Maerdy Fferm Wynt

     Cynnwys    Help    Cysylltu    English

Pam y Maerdy?

 

tudalen 1 o 1

Mae'r safle yn y Maerdy'n cael ei gynnig oherwydd ei fod, yn dilyn ymgynghori helaeth, yn un o'r safleoedd gorau i isafu effaith amgylcheddol fferm wynt. Mae llawer o nodweddion ffafriol sy'n gwneud y safle'n un da ar gyfer fferm wynt.


Ymgynghoriad De Cymru

Yn ystod 2003 a 2004 cynhaliwyd ymgynghoriad mawr i nodi'r safleoedd mwyaf priodol ar gyfer prosiectau ynni gwynt yn Ne Cymru. Edrychwyd ar dros ugain o safleoedd ac ymgynghorwyd â thros ugain o gyrff gwahanol yn trafod y materion allweddol mewn perthynas â ffermydd gwynt. Ymysg y rhai yr ymgynghorwyd â hwy: BBC / ITC / Cyngor Cefn Gwlad / Asiantaeth yr Amgylchedd / CADW / Ymddiriedolaethau Archeolegol Lleol / Telecom a Chwmnïau Ffonau Symudol / y Weinyddiaeth Amddiffyn / CAA / Bwrdd Croeso Cymru / ayyb.

Er mwyn i fferm wynt fod yn dechnegol hyfyw rhaid iddi:

  • Fod yn hygyrch – dim ffyrdd serth neu droeon siarp
  • Peidio â tharfu ar delathrebu - ee mastiau cyfathrebu
  • Peidio â tharfu ar awyrennau sifil a milwrol - ee radar, parthau hedfan yn isel, meysydd awyr
  • Peidio ag effeithio'n afresymol ar ecoleg sensitif – ee SoDdGAau, gwarchodfeydd natur
  • Peidio ag effeithio'n afresymol ar dirwedd werthfawr - ee Parciau Cenedlaethol, AOHNau
  • Bod â chyflymder gwynt digonol
  • Bod â digon o le ar gyfer nifer hyfyw o dyrbinau
  • Peidio â bod yn rhy agos at dai i achosi unrhyw niwsans swn
  • Peidio â niweidio asedau treftadaeth ddiwylliannol - ee archaeoleg leol, parciau a gerddi, tirweddau hanesyddol
  • Peidio â bod a defnydd mwy masnachol i'r tir – ee parc diwydiannol neu dai

Mae'r safleoedd sy'n cwrdd â'r holl feini prawf hyn yn brin iawn. Yn dilyn yr ymarferiad ymgynghori roedd y safle yn y Maerdy'n un o'r safleoedd prin iawn oedd yn bodloni'r meini prawf technegol i fod yn hyfyw fel lleoliad i fferm wynt. Ar ben hyn, o'i gymharu â safleoedd eraill, roedd gan y Maerdy lefel is o risg parthed effaith afresymol ar ffactorau amgylcheddol.


Polisi Cynllunio

Byddai unrhyw gais cynllunio'n cael ei farnu yn erbyn y polisïau cynllunio perthnasol. Cafodd polisi cynllunio newydd ar gyfer ffermydd gwynt ei gyhoeddi'n ddiweddar gan Lywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC) ac mae wedi symbylu nifer o gynigion newydd am ffermydd gwynt yn ardal y Rhondda.

Cyhoeddodd LlCC bolisi a chanllawiau cynllunio newydd ar gyfer ffermydd gwynt ym mis Gorffennaf 2005 mewn dogfen o'r enw TAN8. Gellir lawrlwytho'r polisi o Wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru ac mae'n cynnwys defnydd cefndirol ar y materion sy'n ymwneud â ffermydd gwynt.

Mae'r polisi'n datgan mai datblygu ychydig o ffermydd gwynt ar raddfa fawr mewn ardaloedd sydd wedi eu lleoli'n ofalus sy'n rhoi'r cyfle gorau i gwrdd â'r targed cenedlaethol ar ynni adnewyddol ac mae'n nodi ardaloedd yng Nghymru sy'n cael eu hystyried fel y lleoliadau mwyaf priodol ar gyfer datblygu ffermydd gwynt ar raddfa fawr. Mae'r Maerdy wedi'i leoli o fewn un o'r ardaloedd sy'n cael eu ffafrio gan y Cynulliad Cenedlaethol (gweler y cynllun isod).



Mae adran nesaf y wefan ar Y Pynciau yn mynd i'r afael â'r pryderon a'r pynciau cyffredin mewn perthynas â ffermydd gwynt ac mae'n esbonio pam bod y safle yn y Maerdy'n cael ei gynnig.

tudalen 1 o 1
cynnwys