Maerdy Fferm Wynt

     Cynnwys    Help    Cysylltu    English

Beth sy'n cael ei gynnig?

 

tudalen 2 o 3


Rhannau eraill y Fferm Wynt

Caiff trydan o'r tyrbinau eu gludo drwy geblau tanddaearol yn ôl i'r isbwerdy. Adeilad unllawr yw'r isbwerdy gyda pheth offer trydanol y tu allan yn debyg i'r rhai a welir mewn isbwerdai bach mewn ardaloedd trefol. Mae'n debyg y bydd yr isbwerdy'n cael ei leoli ger y goedwigaeth sy'n tyfu ar ymyl gorllewinol y safle. Bydd yr adeilad yn cael ei godi mewn defnyddiau lleol sy'n cydweddu â'r ardal. Mae'n bosibl y bydd modd sgrinio'r adeilad ymhellach drwy blannu coed conwydd ychwanegol o'i amgylch.

Byddai trac carreg yn cysylltu'r tyrbinau â'i gilydd. Ar y dechrau bydd hwn yn 5m o led er mwyn caniatáu mynediad i'r craeniau mawr sy'n codi'r tyrbinau. Caiff y trac ei ledu wrth droed pob tyrbin er mwyn darparu pad i'r craen weithio arno. Ar ôl i'r tyrbinau gael eu codi, caiff y trac ei gulhau i led un lôn, yn ddigon ar gyfer defnydd fan cynnal a chadw.

O'r isbwerdy, caiff y trydan sy'n cael ei eneradu o'r fferm wynt ei ddosbarthu i'r grid trydan lleol gan ddefnyddio gwifrau trydan uwchben ar bolion pren. Mae'r gwifrau'n debyg i'r rhai sy'n bodoli eisoes yn yr ardal, tebyg i'r enghraifft isod. Byddai'r gwifrau'n cael eu gosod er mwyn lleihau gwelededd; ar hyd ymylon y goedwig, yn dilyn gwifrau trydan presennol, ayyb.

 

 

Yn ogystal â'r tyrbinau, byddai mast tenau hefyd i fesur y gwynt, sef mast anemomedr. Byddai hwn tua 50m o uchder, ond yn denau ac yn anodd ei weld o bellter.

 

tudalen 2 o 3