Maerdy Fferm Wynt

     Cynnwys    Helpu    Cysylltu    English

Beth sy'n cael ei gynnig?

 

tudalen 1 o 3

Mae cynigion cychwynnol wedi cael eu datblygu ar gyfer fferm wynt gyda rhyw 8 i 12 tyrbin gwynt ar dir uwchben tip glo'r Maerdy, i'r gogledd orllewin o'r Maerdy ac i'r gogledd o Dreorci.

 

Gall y safle ddal wyth tyrbin "3MW" (tri megawat) fel y gwelir yn y cynllun dangosol isod.

 

Fel arall, gallai'r safle ddal o gwmpas deuddeg tyrbin llai "2MW" o fewn yr un ardal, neu gyfluniad rhwng y ddau.

Patrwm dangosol o 12 tyrbin "2MW":

 

Fel rhan o'r ymgynghoriad cyhoeddus ar y fferm wynt, gwahoddir eich barn ynghylch a yw'n well cael 8 tyrbin mawr neu 12 tyrbin llai. Bydd hyn yn helpu cyfeirio dyluniad y fferm wynt. Mae'r Adran Ddelweddu'n cynnwys golygfeydd dangosol o'r gwahanol gynlluniau posibl ar gyfer y prosiect i helpu ffurfio barn ac mae'r Adran 'Eich Barn' yn esbonio sut i anfon eich barn at yr ymgynghoriad cyhoeddus. Yn dilyn astudiaethau amgylcheddol a'r ymgynghoriad cyhoeddus, gallai cynllun terfynol y prosiect fod yn llai na'r rhai sy'n cael eu disgrifio fan hyn.

 

Y Tyrbinau Gwynt

Mae gan y tyrbinau dwr, gwâl neu "nacelle" ar y brig yn dal yr holl eneraduron a'r offer, ac mae ganddynt dri llafn. Mae'r ddelwedd isod yn dangos sut y gallai'r fferm wynt ymddangos o ogledd y safle. Byddai'r tyrbinau'n cael eu peintio'n lliw llwydwyn; dyma'r lliw y mae cynllunwyr, o brofiad, wedi'i gael i fod y lliw gorau i gyd-fynd â gwahanol liwiau'r awyr. Adeiladir y tyrbinau ar sylfaen goncrit tua 2m o ddyfnder.

 

Mae gan y tyrbinau mawr 3MW dwr sy'n rhyw 80 metr o uchder gyda llafnau sy'n 45 metr o hyd. Mae tyrrau'r tyrbinau llai 2MW o leiaf 67 metr o uchder a'r llafnau'n 40 metr o hyd.

Mae tyrbinau'r dydd heddiw'n fwy na'r rhai gafodd eu codi yn y blynyddoedd a fu. Mae hyn yn galluogi defnyddio llawer llai o dyrbinau i gynhyrchu'r un faint o drydan sy'n cael ei eneradu gan y gwynt. Mae llai o dyrbinau i'w gweld ac mae angen llai o drac. Mae'r tyrbinau hefyd yn troi yn arafach na'r rhai llai, cynharach (tua 4 eiliad i wneud un cylchdro).

Yn aml caiff tyrbinau eu cymharu o ran maint gyda thirnodau adnabyddus megis Big Ben, Twr Blackpool, ayyb. Yr hyn sy'n bwysig i'w ystyried, fodd bynnag, yw sut olwg fydd ar y prosiect mewn gwirionedd. Gobeithiwn y bydd paratoi'r delweddau yn galluogi pobl i ffurfio eu barn eu hunain ar y cynigion.

 

tudalen 1 o 3
Cynnwys  y dudalen nesaf