Maerdy Windfarm

     Contents    Help    Contact    Cymraeg

Y Pynciau
Tirwedd Leol

 

tudalen 1 o 13

Mae asesiad effaith amgylcheddol (EIA)'n cael ei gynnal ar gynigion y fferm wynt a bydd y canlyniadau'n cael eu cyflwyno gydag unrhyw gais cynllunio. Mae'r adrannau isod yn cyflwyno crynodeb o'r wybodaeth a gasglwyd ar y safle hyd yn hyn i esbonio pam bod y safle'n cael ei gynnig ac mae'n nodi'r pynciau y bydd yr EIA yn mynd i'r afael â hwy. Nid bwriad yr wybodaeth yw cymryd lle'r EIA trylwyr ac eang, ond i ddarparu rhywfaint o wybodaeth hygyrch i'r cyhoedd ar feysydd all fod yn fater pryder.

 

 

Y Dirwedd Agosaf

Tir garw yw'r safle ei hun a ddefnyddir i bori defaid. Mae'r safle wedi'i leoli rhwng hen dip glo'r Maerdy, nad yw'n cael ei ddefnyddio bellach, a choedwig Mynydd Ty Newydd. Mae cronfa ddwr Lluest-wen i'r gogledd o'r safle a ffordd fynediad yn arwain yn ôl i'r Maerdy. Mae gwifren drydan uwchben ar bolion pren eisoes yn bodoli i'r de ac i'r gogledd. Mae'r nodweddion lleol i'w gweld ar y cynllun isod.

 

Golygfa o dip glo'r Maerdy:



 

Golygfa o goedwig Mynydd Ty Newydd:



 

Golygfa o argae cronfa ddwr Lluest-wen:

 

Mae'r nodweddion oddi amgylch sydd wedi eu creu gan ddyn yn gwneud integreiddio'r fferm wynt yn rhan o'r dirwedd yn haws nac mewn ardal lle nad oes nodweddion o waith dyn.

tudalen 1 o 13