|
Maerdy Fferm Wynt |
![]() |
|
|
| Nod yr Ymgynghoriad Cyhoeddus oedd darparu gwybodaeth am y cynigion a hefyd i dderbyn sylwadau i wella cynllun y fferm wynt. Bu dros 1,300 o ymweliadau â gwefan yr ymgynghoriad yn ystod y cyfnod hwn. Derbyniwyd 27 o sylwadau heb fwyafrif clir o blaid nac yn erbyn y cynigion. Mae'r Wefan Ymgynghori yn cynnwys gwybodaeth ar pam y mae'r safle'n cael ei gynnig, y materion all fod yn achos pryder (swn, gwelededd ayyb) a gwneud y gorau o fanteision y prosiect. Mae'r wefan hon hefyd yn cynnwys delweddau o dros 250 o leoliadau gwahanol o gwmpas yr ardal. Mae'r Ymgynghoriad Cyhoeddus wedi dod i ben ac mae'r prosiect terfynol
yn cael ei gynllunio bellach, gyda disgwyl cyflwyno cais cynllunio ddiwedd
y Gwanwyn. Bryd hynny bydd cyfres arall o ymgynghori ac arddangosfa
ar y cynigion terfynol yn digwydd. Yn y cyfamser mae croeso o hyd i
sylwadau cyffredinol ar y cynigion cychwynnol. Mae cynigion ar gyfer fferm wynt gyda rhwng 8 a 12 tyrbin wedi cael eu datblygu ar gyfer tir cyfagos i dip glo'r Maerdy, i'r gogledd o Dreorci ac i'r gogledd orllewin o'r Maerdy. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cyhoeddi polisi i dargedu datblygu ffermydd gwynt mewn rhai ardaloedd strategol yng Nghymru. Mae un o'r ardaloedd yn cynnwys y Rhondda, Castell-nedd a Phen-y-bont ar Ogwr, gyda nod o ryw 100+ o dyrbinau gwynt. Mae safle'r Maerdy'n cael ei gynnig fel fferm wynt botensial yn dilyn ymgynghori helaeth. Ymgynghorwyd â mudiadau megis y Cyngor Cefn Gwlad, CADW, RSPB, y Weinyddiaeth Amddiffyn, y BBC ac Asiantaeth yr Amgylchedd ar nifer o safleoedd gwahanol ar draws De Cymru. Y safle ym Maerdy oedd un o'r safleoedd potensial gorau yn dilyn yr ymgynghoriad. Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar gynigion cychwynnol yn ystod Rhagfyr
2005 ac Ionawr 2006. Cafodd taflenni eu dosbarthu i dros 10,000 o gartrefi
yn yr ardal, rhoddwyd hysbysebion mewn papurau newydd lleol a chenedlaethol
a chynhaliwyd pedwar cyfarfod cyhoeddus.
|
|