Maerdy Fferm Wynt

     Cynnwys    Help    Cysylltu    English

Y Manteision

 

tudalen 1 o 1

Byddai pob tyrbin 2MW yn y Maerdy yn cynhyrchu tua 5,800 MWh o drydan cynaliadwy bob blwyddyn. Mae'r cartref cyfartalog yn defnyddio 4.7 MWh o drydan y flwyddyn. Felly byddai pob tyrbin 2MW yn cyflenwi'r trydan a ddefnyddir gan ryw 1,200 o gartrefi. (Byddai tyrbin mwy, 2MW, yn cynhyrchu gwerth tua 1,800 cartref o drydan). 1,400 o gartrefi sydd yn y Maerdy a 3,400 yn Nhreorci. Byddai un tyrbin felly'n cyflenwi tua'r cyflenwad trydan ar gyfer cartrefi'r Maerdy i gyd.

Prif bwrpas a mantais ffermydd gwynt yw mynd i'r afael â chynhesu byd-eang. Mae'r adran Gwybodaeth Bellach yn cynnwys cysylltiadau at wybodaeth sy'n trafod problemau newidiad yn yr hinsawdd. Prif fuddiolwyr fferm wynt yn y Maerdy fyddai'r rhannau hynny o'r byd sy'n fwyaf agored i newid yn yr hinsawdd.

Byddai'r fferm wynt hefyd yn helpu gyda sicrwydd cyflenwad ynni'r DU. Mae llawer o'n trydan yn cael ei gynhyrchu gan nwy a glo sy'n cael eu mewnforio. Mae gennym lai a llai o ffynonellau ynni mewnwladol. Mae pryder y gaeaf hwn a'r gaeaf nesaf ynghylch prinder trydan i'r sector diwydiannol. Byddai fferm wynt y Maerdy yn darparu mwy o drydan sy'n "gynnyrch cartref".

Mae diffyg cysylltiad anffodus rhwng y ffaith mai lleol yw unrhyw effeithiau annymunol ffermydd gwynt tra bod y manteision mawr yn genedlaethol neu'n rhyngwladol. Gwaethygir hyn gan y ffaith nad yw ffermydd gwynt, yn anffodus, yn arwain at greu llawer iawn o swyddi lleol. Dim ond rhyw 1 neu 2 o bobl sydd eu hangen ar fferm wynt i'w chynnal a'i chadw a rhyw 20-30 i'w hadeiladu.

Mae'r Llywodraeth wedi penderfynu bod angen rhagor o ffermydd gwynt arnom ni, ac mae'n rhaid gosod y rhain yn rhywle. Rhaid i ddatblygwyr weithio'n galed felly i sicrhau bod manteision lleol yn llifo.

 

Budd i'r Economi Genedlaethol

Y fantais fwyaf i Gymru fyddai pe byddai gwneuthurwyr tyrbinau'n sefydlu ffatrïoedd cynhyrchu yng Nghymru. Dylai graddfa'r ynni gwynt sy'n cael ei gynllunio ar gyfer Cymru gan Lywodraeth Cynulliad Cymru fod yn ddigon i symbylu diwydiant cartref newydd. Bydd y datblygwr yn chwarae ei ran i annog hyn. Gall hyn fod ar ffurf gosod pwysau ar wneuthurwyr tyrbinau gwynt a chyflenwyr offer trydan i fuddsoddi yng Nghymru.

 

Budd Economaidd Lleol

Mae safle'r fferm wynt wedi'i leoli gerllaw hen bwll glo'r Maerdy, lle mae ffatri bellach wedi'i godi ac mae lle yno ar gyfer datblygu pellach. Mae'r potensial yno, oherwydd yr agosrwydd, i'r fferm wynt gyflenwi peth trydan yn uniongyrchol i ddefnyddwyr diwydiannol gerllaw. Drwy gyflenwi'n uniongyrchol gan osgoi cost cludo trydan dros filltiroedd lawer, gallai'r trydan gael ei gyflenwi ar bris gostyngol gan ffafrio diwydiant lleol. Bydd astudiaethau pellach yn cael eu cynnal yn y dyfodol.

 

Budd i'r Gymuned Leol

Er mwyn darparu buddion lleol bydd y fferm wynt yn cyfrannu arian yn uniongyrchol i'r gymuned leol. Ni fydd y swm yn hysbys tan ar ôl y gwaith adeiladu, ond gan ddibynnu ar faint y prosiect a materion masnachol eraill, bydd yn ddegau o filoedd o bunnoedd bob blwyddyn. Mae'n fater pryder bod yr arian hwn yn cael ei ddefnyddio yn y modd y mae'r gymuned leol yn dymuno. Gellid gwario'r arian mewn nifer o wahanol ffyrdd. Gwahoddir eich Barn ar sut y dylid defnyddio'r arian hwn. Gweler yr Adran ar Eich Barn er mwyn mynegi eich barn.

 

Mae opsiynau ar sut y gellid defnyddio'r arian hwn yn cynnwys:

  • Cronfa i gefnogi achosion da a grwpiau cymunedol lleol – yn debyg i'r cronfeydd Loteri amrywiol. Yn aml gall y gronfa lenwi'r bylchau cyllido sy'n cael eu gadael gan ffynonellau cenedlaethol eraill gan alluogi cynlluniau rhwystredig i symud ymlaen. Gallai arian fynd tuag at grantiau addysg, adfywio ardaloedd, cludiant i bensiynwyr, cyfleusterau chwaraeon ayyb. Mae nifer o grwpiau cymunedol da yn yr ardal eisoes. Gwahoddir syniadau ar ble, sut a gan bwy y gellid gwario'r arian hwn – cysylltwch â ni. Os ydych chi'n aelod o grwp cymunedol neu os oes gennych chi syniad ar gyfer cyllido, rhowch wybod i ni.
  • Er mwyn cefnogi perchnogaeth leol o'r fferm wynt. Gellid cyflwyno cyfranddaliadau ar bris gostyngol neu'n rhad ac am ddim, a byddai'r rhain yn talu difidend bach blynyddol i unigolion.
  • Disgownt ar gyflenwadau trydan domestig drwy gyfrwng y fferm wynt.

Gadewch i ni wybod ble rydych chi'n credu y dylid cyfeirio blaenoriaeth ar gyfer unrhyw arian ac am unrhyw syniadau o'ch eiddo. Gellir datblygu cynlluniau yn unol â hynny wedyn.

 

Budd i'r Cyngor Lleol

Mae safle'r fferm wynt yn agos i dir sy'n eiddo i'r Cyngor. Gellid lleoli un o'r tyrbinau ar dir y Cyngor. Cysylltwyd â Chyngor Rhondda Cynon Taf. Gallai’r tyrbin gynorthwyo tuag at amcanion cynaliadwyedd y Cyngor.

tudalen 1 o 1
cynnwys