Maerdy Fferm Wynt

     Cynnwys    Help    Cysylltu    English

Help

 


Animeiddiadau ddim yn gweithio.

Mae'r animeiddiadau wedi'u dylunio ar gyfer cyfrifiaduron sydd ag MS Internet Explorer fel eu porwr rhyngrwyd diofyn a MS Media Player fel y chwaraewr cyfryngau diofyn sy'n cael ei ddefnyddio gan Internet Explorer. Gallai rhai o dudalennau gwe Internet Explorer ystyried y cynnwys yn "weithredol" os yw eich gosodiadau diogelwch wedi'u gosod digon uchel, gan ofyn eich caniatâd i agor. Nid yw'r cynnwys yn niweidiol, ac nid oes unrhyw cwcis na chynnwys amheus arall.

Argymhellir eich bod yn cael cymorth rhywun sy'n deall cyfrifiaduron yn dda i'ch helpu os yw'ch cyfrifiadur yn cael trafferth yn lawrlwytho rhywbeth. Os bydd y problemau'n parhau gellir edrych ar y ffotogyfosodiadau llonydd gyda llai o ofynion o ran meddalwedd.

 

Lawrlwytho'n araf

Mae'r wefan wedi'i dylunio ar gyfer band eang. Oherwydd pwysigrwydd y delweddau, mae'n anodd osgoi ffeiliau mawr. Er hynny, mae'r rhan fwyaf o'r animeiddiadau a'r lluniau llonydd llai o gwmpas 100k o ran maint ac ni ddylai'r rhain gymryd mwy nag ychydig eiliadau i fodem deialu eu llwytho.

 

Rwy'n adnabod rhywun sydd â diddordeb ond sydd heb fynediad at y rhyngrwyd

Mae'r wybodaeth ar y wefan yn rhy fawr i'w chynhyrchu ar bapur. Mae gan Lyfrgelloedd Rhondda Cynon Taf fynediad i'r rhyngrwyd am ddim a gellir edrych ar y wefan yno.

Mae modd argraffu copïau papur o'r ymgynghoriad (heb y delweddau) o'r wefan a'u hanfon ymlaen at bobl sydd heb gyfrifiadur. Mae crynodeb ar bapur ar gael os gwneir cais ysgrifenedig at Reolwr y Prosiect. Yn anffodus mae gwasanaeth Llyfrgelloedd Rhondda Cynon Taf wedi gwrthod cadw unrhyw gopïau papur i'r cyhoedd edrych arnynt.

Paper copies of the consultation (excluding the visualisations) can be printed from the website and forwarded to those without computers. Please find a copy to download or print below.

15Mb Print Version of Full Website
5Mb Consultation Summary


Cynnwys