|
Maerdy Fferm Wynt |
![]() |
|
|
| Mae'r
delweddau cronnus yn dangos golygfeydd y fferm wynt arfaethedig yn y Maerdy
ynghyd â fferm wynt Ferndale, sydd wedi cael caniatâd cynllunio.
Defnyddir y cynllun wyth tyrbin "3MW" drwyddi draw ar gyfer Fferm
Wynt y Maerdy gan fod y tyrrau'n uwch ac felly mae ychydig yn fwy gweladwy.
Wyth tyrbin sydd yn Fferm Wynt Ferndale.
Mae'r mapiau'n dangos yr ardal o amgylch y ddwy fferm wynt. Y rhan oren yw'r ardal sydd â golygfa botensial o ryw ran o'r ddwy fferm wynt; hy golygfa gronnus. Gallai'r olygfa fod cyn lleied â blaen llafn un tyrbin ar bob fferm wynt. Mae'r ychydig ardaloedd trefol sydd â golygfa gronnus wedi'u hamlygu gyda chylch brown. Crwydrwch drwy'r gwahanol ardaloedd ar y map gan ddefnyddio'r botymau glas. Mae gan y mapiau graddfa fawr eiconau camera sy'n cysylltu â ffotogyfosodiadau o'r olygfa gronnus. Mae'r golygfeydd hynny lle nad yw'r ddwy fferm wynt yn weladwy (oherwydd rhwystr megis ty) yn cael eu dynodi gan gamera coch a'r rhai lle mae'r ddwy fferm wynt yn weladwy yn cael eu dynodi gan gamera gwyrdd. Mae gan y ffotogyfosodiadau ddelwedd drosolwg ar raddfa fach yn dangos y maes gweld cyfan. Mae'r cyswllt "delwedd fwy" yn dangos ffotogyfosodiad ar raddfa fwy. Defnyddiwch y bar sgrolio ar waelod y dudalen i symud at ddelwedd fwy. Ar y brig, mae labeli'r delweddau'n nodi lleoliad ffermydd gwynt y Maerdy a Ferndale. Cliciwch yn ôl i symud yn ôl at y mapiau.
|
|